Sut allwch chi ddweud os yw’ch babi’n cael digon o laeth? Mewn byd ble mae popeth wedi ei fesur, gall methu gweld faint o laeth mae’ch bronnau’n cynhyrchu beri gofid i chi.
Dilynwch eich babi, nid y llyfr
Magu pwysau
Clytiau budr?
Pa mor aml ydych chi’n bwydo ar y fron?
Babi cysglyd?
Datrysiadau bwydo ar y fron
Gwasgu’r fron
Calonogol i wybod
Dilynwch eich babi, nid y llyfr
Mae rhai llyfrau rhianta yn argymell dilyn trefn benodol ar gyfer bwydo babanod ar y fron. Ond gall dilyn amserlen leihau cynhyrchiant llaeth yn y fron, ac felly hefyd defnyddio ategolion diangen neu ddymi. Beth bynnag ei bwysau, mae baban ifanc angen nyrsio o leiaf pob 2-3 awr i sefydlu cyflenwad llaeth ei fam ac i gael digon o laeth.
Mae nyrsio cyson yn arferol, yn rhannol am fod llaeth y fron yn ddiod yn ogystal â bwyd. Anaml iawn fydd oedolion yn mynd mwy nag ychydig oriau heb ddiod, byrbryd neu bryd. Mae bol eich babi yn fach iawn ac mae llaeth y fron yn cael ei dreulio’n gyflym iawn, felly mae angen bwydo’n gyson i’w helpu i dyfu.
Sut i wybod os yw’ch babi’n cael digon o laeth o’r fron
Magu pwysau
Mae babanod newydd-anedig yn aml yn colli hyd at 7% o’u pwysau genedigol yn y dyddiau cyntaf. Unwaith y bydd eich cynhyrchiant llaeth yn cynyddu, fel arfer ar ddiwrnod 3-4, gallwch ddisgwyl i’ch babi ddechrau adennill y pwysau a gollodd. Mae’r rhan fwyaf o fabanod wedi adennill eu pwysau genedigol erbyn 10-14 niwrnod oed. Bydd eich baban yn tyfu dan ei bwysau ei hun, a bydd siart twf yn dangos sut mae’n gwneud (gweler Darllen Pellach). Unwaith y bydd bwydo ar y fron yn mynd yn dda ac nad oes unrhyw bryderon, ni chynghorir pwyso fwy nag unwaith y mis yn y chwe mis cyntaf. Os oes unrhyw bryderon, cadwch lygad ar dueddiadau newid pwysau dros nifer o wythnosau yn hytrach na chanolbwyntio ar un wythnos benodol. Gallai pwysau eich baban godi’n sefydlog a dilyn un llinell ganrannol ar y siart, neu godi’n gynt, gan groesi’r llinellau canrannol. Mae’n annhebyg y bydd cwymp graddol o un llinell ganrannol i’r nesaf (neu bellter cyfatebol) yn broblem oni bai bod ei bwysau yn isel ar gyfer ei oed. Mae twf babanod newydd-anedig trymach yn aml yn ‘arafu’ – sy’n golygu eu bod yn magu pwysau’n araf bach er yn gostwng yn raddol yn erbyn y llinellau canrannol. Mae gostwng yn erbyn y siart yn fwy o ofid ar gyfer babanod pwysau is. Mynnwch gymorth ar unwaith os nad yw’ch babi yn magu pwysau’n dda. Cysylltwch ag Arweinydd LLL am ragor o wybodaeth, neu ddarllen ein taflen My Baby Needs More Milk.
Edrychwch ar eich babi
Efallai y byddwch yn gwybod yn reddfol sut mae’ch babi’n gwneud. Ystyriwch: A oes ganddo liw da? A yw’n nyrsio’n egnïol? A yw ei groen yn gadarn? A yw’n edrych yn iach ac yn ymddangos i fod yn egnïol ac effro? A yw’n bodloni cerrig milltir datblygu?
Clytiau budr?
Mae clytiau budr yn arwydd da o faint o laeth mae eich baban wedi cymryd. Mae’r tabl isod yn dangos beth sy’n arferol.
Oed | Clytiau budr o fewn 24 awr |
---|---|
1-2 diwrnod | Meconiwm tarllyd gwyrdd-ddu |
3-5 diwrnod | O leiaf 3 pw trosiannol gwyrdd |
5+ diwrnod | O leiaf 3-5 pw melyn, heb ffurf maint darn 2 geiniog neu fwy |
6 wythnos | Llai aml o bosibl ond pws mwy |
Pa mor aml ydych chi’n bwydo ar y fron??
Yr amlaf y byddwch yn bwydo ar y fron, y mwyaf o laeth fyddwch chi’n ei gynhyrchu. Byddwch yn cynhyrchu llai o laeth os ydych chi’n bwydo’n llai aml.
Yn yr wythnosau cyntaf, mae baban angen nyrsio tua phob 2-3 awr, neu o leiaf 8-12 gwaith mewn cyfnod o 24 awr, gan gynnwys bwydo yn ystod y nos.
Gadewch i’ch babi fwydo ar y fron am faint bynnag o amser ac mor aml ag y mae’n ymddangos i fod â diddordeb mewn gwneud. I’w helpu i gael pryd cytbwys, gadewch iddo orffen bwydo o’r fron gyntaf cyn cynnig yr ail iddo.
Babi cysglyd?
Efallai y bydd angen deffro babi sy’n cysgu cryn dipyn pob 2-3 awr i nyrsio, ac mae hyn yn arbennig o bwysig os oes ganddo glefyd melyn neu os nad yw’n ennill digon o bwysau (gweler Darllen Pellach). Os yw hyn yn anodd, neu os yw’n swrth, holwch eich bydwraig, ymwelydd iechyd neu feddyg teulu i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn.
Datrysiadau bwydo ar y fron
Gall y rhan fwyaf o famau gynhyrchu digon o laeth i fodloni anghenion eu babanod.
Bwydwch ar y fron yn aml, gan gynnig y ddwy fron – o leiaf 10 o weithiau mewn 24 awr. Deffrowch eich babi os oes angen. Cadwch lygad am chwilota (troi ei ben) neu sugno dwrn – mae llefain yn arwydd hwyr o lwgu.
Anogwch ‘nyrsio mewn clwstwr’ – bwydwch yn aml iawn ar y fron ar adegau pan fydd eich babi’n fodlon gwneud hyn.
Gwnewch yn siŵr bod eich babi wedi cydio’n dda.
Gosodwch ef ‘ei fol tuag at fol mam’, gyda’i gorff cyfan yn agos yn erbyn eich un chi. Gwnewch yn siŵr bod ganddo lond ceg o fron. Gwrandewch am sŵn llyncu wrth iddo fwydo.
Gofynnwch am help arbenigol yn fuan os yw bwydo ar y fron yn anodd, anghyfforddus neu’n boenus i chi. Cysylltwch ag Arweinydd LLL am help.
Cadwch eich baban yn agos – rhowch gynnig ar Faethu Biolegol (Biological Nurturing™), gorwedd yn gyfforddus gyda’ch baban gan wisgo dillad ysgafn neu mewn cyswllt croen wrth groen yn agos at eich bronnau. Bydd ganddo sawl cyfle i fwydo ar y fron, hyd yn oed wrth gysgu’n ysgafn, ac mae
hyn yn hybu’r lefelau o hormonau sy’n cynyddu eich llaeth.
Anogwch fwydo ar y fron ar gyfer cysur yn ogystal â bwyd gan fod hyn yn hybu cynhyrchiant llaeth. Stopiwch ddefnyddio dymi – bwydwch ar y fron yn lle hyn.
Mae bwydo yn ystod y nos yn arbennig o bwysig ar gyfer sefydlu a chynyddu cynhyrchiant llaeth. Gweler ein taflen ar gysgu’n ddiogel.
Gofynnwch am help gyda thasgau yn y tŷ – anwybyddwch y llwch a bwytewch brydau syml, hawdd i’w paratoi er mwyn i chi allu canolbwyntio ar orffwys a bwydo eich baban ar y fron.
Y ffordd fwyaf effeithiol i gynyddu eich cynhyrchiant llaeth yw mynd â’ch babi i’r gwely gyda chi am ddiwrnod neu ddau, a chanolbwyntio ar nyrsio a gofalu amdano, tra bod pobl eraill yn gofalu amdanoch chi.
Gwasgu’r fron
Gall gwasgu’r fron annog eich babi i fwydo a chymryd mwy o laeth:
1. Cynhaliwch eich bron gydag un llaw – bawd ar un ochr, bysedd ar yr ochr arall.
2. Arhoswch tra bod eich babi yn mynd ati i fwydo, ei ên yn symud yr holl ffordd at ei glust. Pan fydd yn stopio llyncu, gwasgwch eich bron yn gadarn i gynyddu llif llaeth. Daliwch i wasgu tra bydd yn dal i lyncu, yna gollwng eich llaw.
3. Symudwch eich llaw o amgylch y fron ac ailadrodd cam 2 ar rannau gwahanol o’r fron. Byddwch yn dyner – ni ddylai fod yn boenus.
Rhowch gynnig ar newid bron o leiaf dwy i dair gwaith yn ystod pob sesiwn bwydo – pan fydd yn dod oddi ar y fron gyntaf ar ben ei hun neu pan na fydd gwasgu’r fron yn ei gadw’n bwydo mwyach. Gydag amser, fe welwch na fyddwch angen dal i wneud hyn.
Calonogol i wybod
• Mae tynnu hyd yn oed ychydig o laeth o fronnau meddal, cyfforddus yn cynyddu cynhyrchiant llaeth.
Mae bronnau llawn yn arafu cynhyrchiant llaeth – efallai y bydd angen i chi fwydo’n amlach.
• Mae babanod yn nyrsio i gael cysur yn ogystal ag i gael bwyd. Mae’r sesiynau bwydo cysur ‘rhwng prydau’ hyn yn eich helpu i gynhyrchu llaeth.
• Mae eich babi yn ffyslyd. Mae gan nifer o fabanod amser ffyslyd rheolaidd (gyda’r nos yn aml) p’un a ydynt yn llwgu neu beidio. Mae rhai babanod angen cryn dipyn o ysgogiad; mae eraill angen eu hesmwytho. Buan iawn y byddwch yn dod i ddeall beth mae eich babi angen. Os yw’n setlo ar y fron, gadewch iddo nyrsio
• Disgwyliwch i’ch babi fod eisiau bwydo ar y fron yn aml iawn o bryd i’w gilydd. Buan iawn y bydd eich bronnau’n addasu i gynhyrchu mwy o laeth os byddwch yn dilyn anghenion eich babi.
• Mae sesiynau bwydo eich babi yn byrhau efallai’n ddim mwy na phum munud ar bob bron. Mae’r rhan fwyaf o fabanod yn bwydo’n effeithiol unwaith y bydd nyrsio’n mynd yn dda.
• Mae patrymau bwydo babanod yn unigryw i’r baban. Os yw’ch babi’n magu pwysau ar gyfradd briodol, yna dilyn y patrwm bwydo mae’n ddewis yw’r ffordd orau i ddiwallu ei anghenion.
Gofynnwch am gymorth
Mae eich llaeth yn berffaith ar gyfer eich babi, hyd yn oed os yw’n araf i fagu pwysau. Gyda’r wybodaeth a’r gefnogaeth briodol, mae hi fel arfer yn bosibl i fam gynhyrchu digon o laeth i gwrdd ag anghenion ei babi. Ffoniwch ein Llinell Gymorth neu siarad gydag Arweinydd LLL. Gall mamau yn eich Grŵp La Leche League lleol gynnig cefnogaeth ac anogaeth.
Darllen Pellach
The Womanly Art Of Breastfeeding. LLLI, London: Pinter & Martin, 2010
My Child Won’t Eat, Carlos González, C. London: Pinter & Martin, 2012.
Dalenni Gwybodaeth a Llyfrynnau LLL
Comfortable Breastfeeding
Dummies and Breastfeeding
Jaundice in Healthy Newborns
My Baby Needs More Milk
Rythms and Routines
Safe Sleep and the Breastfed Baby
Sleepy Baby – Why and What to do?
Oll ar gael o Siop La Leche League GB, Shop
www.biologicalnurturing.com
Siartiau Twf y Deyrnas Unedig y WHO
Mae’r siartiau hyn yn seiliedig ar gyfraddau twf babanod sydd wedi eu bwydo ar y fron ac maent ar gael yng Nghofnod Iechyd Personol Plentyn eich babi (llyfr coch). I gael rhagor o gopïau, gellir lawrlwytho’r siartiau ysbytai 0-4 manylach a siartiau arbenigol ar gyfer babanod pwysau isel o: www.rcpch.ac.uk/growthcharts