Mae bwydo ar y fron yn normal a naturiol ond efallai y bydd yn cymryd amser i chi a’ch baban ddysgu.
Bwydwch ar y fron yn gynnar
Bwydwch ar y fron yn aml
Colostrwm
Dysgwch i fwydo ar y fron yn gyfforddus
Gadewch iddo gymryd llaeth nes yn llawn
Chwiliwch am arwyddion ei fod yn llwglyd
Rhowch eich llaeth eich hun yn unig
Mae bwydo yn ystod y nos yn bwysig
Dod i adnabod a mwynhau eich babi
Ymdopi â gorlenwi
Help ar gyfer tethau poenus
Bwydwch ar y fron yn gynnar
• Bydd eich bronnau eisoes yn cynhyrchu colostrwm (llaeth cyntaf)
• Gorweddwch eich baban ar eich corff, croen wrth groen, cyn gynted â phosibl, i wneud y gorau o’i reddf gynhenid i fwydo ar y fron. Yn ddelfrydol, gwnewch hyn o fewn yr awr gyntaf wedi’r enedigaeth cyn unrhyw ymyraethau fel ymolchi a phwyso.
• Nid yw byth yn rhy hwyr i ddechrau’r Magu Biolegol (Biological NurturingTM) yma, hyd yn oed os yw’ch baban yn gysglyd o ganlyniad i’r cyffuriau a gawsoch yn ystod yr enedigaeth – mae treulio cryn dipyn o amser croen wrth groen yn helpu babanod i fwydo’n dda ar y fron.
Bwydwch ar y fron yn aml
• Mae boliau babanod yn fach iawn, felly allan nhw ddim aros yn hir am fwyd.
• Anogwch eich baban newydd anedig i fwydo ar y fron o leiaf 8 i 12 o weithiau mewn 24 awr.
• Mae eich colostrwm (llaeth cyntaf) yn cael ei gynhyrchu yn yr union symiau cywir ar gyfer bol bach eich baban.
• Bydd bwydo ychydig ac yn gyson yn sicrhau bod eich baban yn cael yr union faint o laeth mae ei angen – y mwyaf y byddwch yn nyrsio, y mwyaf o laeth fyddwch chi’n cynhyrchu.
Colostrwm
Mae’r llaeth cryno hwn a gynhyrchir yn ystod y dyddiau cyntaf yn clirio meconiwm (y pw cyntaf), yn lleihau clefyd melyn ac yn llawn gwrthgyrff i ddiogelu’ch baban rhag haint.
Dysgwch i fwydo ar y fron yn gyfforddus
• Mae cael eich baban i gydio’n dda ar y fron yn allweddol.
• Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfforddus gyda rhywbeth i orffwys arno.
• Cadwch eich bron ar ei lefel naturiol.
• Daliwch eich babi fel bod ei flaen i gyd yn agos yn eich erbyn chi, wedi ei lapio o amgylch neu ar hyd eich corff.
• Gosodwch ef ‘trwyn i’r deth’ i’w annog i ymestyn ei wddf. Bydd hyn yn ei helpu i agor ei geg yn llawn a chydio’n dda a chyfforddus.
• Gofynnwch am help arbenigol yn fuan os yw bwydo ar y fron yn anodd neu’n anghyfforddus i chi.
Gadewch iddo gymryd llaeth nes yn llawn
• Does dim angen amseru pob sesiwn bwydo – bydd yn rhoi gwybod i chi ei fod wedi cael digon trwy ollwng neu syrthio i gysgu.
• Cynigiwch y fron arall os bydd ei eisiau. Trwy wneud hynny bydd yn cael beth fydd angen a bydd eich bronnau yn cael eu hannog i gynhyrchu digon o laeth.
Chwiliwch am arwyddion ei fod yn llwglyd
• Mae gwingo ac aflonyddu, chwilota (troi ei ben) a sugno dwrn yn arwyddion cynnar o lwgu.
• Cynigiwch y fron tra bydd dal yn dawel – mae llefain yn arwydd hwyr o fod yn llwglyd.
• Yn union fel chi, bydd yn fwy llwglyd ac yn fwy sychedig ar rai adegau o’r dydd nag eraill. Mae nifer o fabanod yn ‘nyrsio mewn clwstwr’ ac yn bwydo’n amlach yn ystod adegau penodol o’r dydd, yn arbennig gyda’r nos.
Chwiliwch am arwyddion ei fod yn cael digon
Wedi i’ch llaeth ddod i mewn:
• Gwrandewch am sŵn llyncu wrth fwydo.
• Mae o leiaf tri pw melyn maint darn arian 50c ym mhob 24 awr yn arwydd ei fod yn cael digon o laeth.
• Mynnwch help arbenigol os yw’ch baban i weld yn anniddig o hyd, hyd yn oed ar ôl bwydo’n hir ar y fron.
• Anogwch faban cysglyd i fwydo ar y fron o leiaf 10 i 12 o weithiau mewn 24 awr. Daliwch ef fwy a’i annog i gydio pan fydd yn effro neu yn ystod cyfnodau o gwsg ysgafn.
Rhowch eich llaeth eich hun yn unig
• Dyw eich baban iach tymor llawn ddim angen unrhyw hylif na bwyd solet arall nes bydd tua chwe mis oed.
• Mae rhoi llaeth fformiwla neu hylif arall yn lleihau faint o laeth fyddwch chi’n ei gynhyrchu ac fe all ysgogi alergeddau.
• Yn ogystal ag effeithio ar eich cynhyrchiant llaeth chi, gall boteli neu ddymïau ddrysu techneg sugno eich baban a’i wneud yn gyndyn i fwydo ar y fron.
• Os oes angen ategolyn, ceisiwch ddefnyddio llwy, cwpan fwydo ystwyth neu chwistrell.
Mae bwydo yn ystod y nos yn bwysig
• Bydd eich baban angen bwydo ar y fron yn ystod y nos i wneud yn siŵr ei fod yn cael digon o laeth.
• Bydd bwydo yn ystod y nos yn eich helpu i sefydlu a chynnal eich cyflenwad llaeth ac osgoi gorlenwi, dwythellau wedi blocio a mastitis.
• Gallwch wneud bwydo yn ystod y nos yn haws trwy gadw’ch baban yn agos atoch.
Dod i adnabod a mwynhau eich babi
Yn fuan byddwch yn dod i ddeall beth mae ei angen ac yn ei fwynhau. Y ffordd hawsaf i ofalu am eich baban newyddanedig yw derbyn a bodloni ei angen am agosatrwydd. Gall tadau fwynhau agosatrwydd hefyd – trwy gwtsio, newid, ymolchi neu gario’r babi mewn sling.
Setlwch i mewn i’ch trefn eich hun
Gall y cyfrifoldeb o ofalu am fabi 24 awr o’r dydd eich llethu ar y dechrau. Ceisiwch ymlacio – yn fuan iawn byddwch yn gweld patrymau bach yn ymddangos. Yna gallwch adeiladu ar y patrymau hyn, gan greu trefn ddyddiol sy’n gweddu i chi’ch dau.
Crwydro yma ac acw
Gall mynd allan eich atal rhag teimlo’n unig a rhoi strwythur i’ch diwrnod. Mae’n bosibl bwydo baban ar y fron yn dawel bach heb i neb arall sylwi. Mae’n helpu i ymarfer hyn adref o flaen drych. Cynigiwch fwydo cyn i’ch babi gyffroi’n ormodol – wedi’r cyfan, bydd sgrechfeydd babi yn siŵr o ddenu cynulleidfa!
Gyda threigl amser
Ni fydd eich baban iach angen dim mwy na’ch llaeth chi tan tua chanol y flwyddyn gyntaf, pan fydd yn dechrau dangos arwyddion o fod yn barod am fwyd solet. Os ydych chi’n dychwelyd i’r gwaith, gallwch dynnu llaeth eich hun a dal i fwydo ar y fron pan fyddwch gyda’ch gilydd.
Pyliau o dwf
Mae babanod yn cael pyliau cyson o dwf yn dechrau yn yr wythnosau cyntaf. Yn ystod pwl o dwf, bydd eich baban yn llwglyd iawn –nyrsiwch mor aml ag a gallwch i hybu eich cynhyrchiant llaeth. Bydd eich bronnau’n teimlo’n fwy meddal a chyfforddus wrth i chi ddod i’r arfer o gynhyrchu llaeth. Gall hyn gyd-daro gyda phwl o dwf. Peidiwch â phoeni, rydych chi’n dal i gynhyrchu digon o laeth a bydd bwydo yn setlo i lawr eto’n fuan.
Gofynnwch am gymorth
Mae’n iawn i ofyn am help – gall gymryd amser i fwydo ar y fron ddod yn hawdd, neu i’ch baban ddysgu i fwydo ar y fron yn effeithiol. Bydd pethau’n haws wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae’n hawdd iawn i chi gael help medrus gan Arweinydd LLL trwy ffonio ein Llinell Gymorth. Efallai y gallech hefyd gael cefnogaeth ac anogaeth gan famau sy’n bwydo ar y fron yn eich Grŵp LLL lleol.
Pryderon Cyffredin
Ymdopi â gorlenwi
Bwydwch ar y fron mor aml â phosibl. Mae meddalu gyda gwasgedd chwith yn symud hylif i ffwrdd o ardal y deth er mwyn i’ch baban allu cydio’n dda. Gwasgwch flaenau pob bys ar un llaw o amgylch gwaelod y deth. Pwyswch yn ysgafn a sefydlog am tua munud nes bydd cylch o bantiau bychan ar yr areola. Gallwch hefyd wasgu gydag ochrau’ch bysedd. Rhowch eich bawd ar un ochr y deth a dau fys ar yr ochr arall ble bydd gwefusau eich baban. Tynnwch ychydig o laeth â llaw yn araf deg os oes angen. Mae gwres llaith cynnes ychydig cyn bwydo yn helpu’r llaeth i lifo. Mae defnyddio clwtyn oer rhwng bwydo yn helpu lleihau chwyddo a phoen.
Help ar gyfer tethau poenus
Cofiwch – mae gwneud yn siŵr bod eich baban wedi cydio’n gyfforddus yn bwysig i atal tethau poenus. Mae poen yn arwydd bod angen newid rhywbeth – mynnwch help arbenigol. Nyrsiwch eich baban cyn ei fod wir yn llwgu. Cynigiwch y fron leiaf poenus gyntaf a rhoi cynnig ar safleoedd nyrsio gwahanol. Rhowch eich bys rhwng deintgig eich babi os ydych angen ei dynnu oddi ar y fron. Os bydd eich tethi yn cosi neu’n llosgi neu os teimlwch wayw o boen yn ystod neu rhwng bwydo, holwch arweinydd LLL i helpu canfod yr achos. Help ar gyfer bronnau poenus Gallai cochni, man tyner neu lwmp poenus fod yn ddwythell wedi blocio. Ceisiwch osgoi mastitis trwy nyrsio’n rheolaidd i gadw’r llaeth yn llifo. Defnyddiwch wahanol safleoedd nyrsio a gwirio bod eich babi wedi cydio ar y fron. Gorffwyswch a thrin yn yr un modd ag ar gyfer gorlenwi.Ceisiwch osgoi bras a dillad allai wasgu ar y fron. Mynnwch gymorth meddygol os nad yw pethau’n gwella.
Darllen Pellach
The Womanly Art of Breastfeeding, LLLI. London: Pinter & Martin, 2010.
Dalenni Gwybodaeth a Llyfrynnau LLL
Adjusting to Motherhood
Engorged Breasts -Avoiding & Treating
Hand Expression of Breastmilk
Nipple pain – why and what to do
Positioning & attachment
Comfortable Breastfeeding
Is my baby getting enough milk?
Rhythms and routines
Supporting a Breastfeeding Mother
Dummies and Breastfeeding
Safe sleep and the breastfed baby
Oll ar gael o Siop La Leche League GB SHOP
Ysgrifennwyd gan Karen Butler yn seiliedig ar destun gwreiddiol gan Sue Upstone, Ginny Eaton a mamau La Leche League Prydain Fawr.